
Albym solo cyntaf Siân a ryddhawyd yn 1990 yw hon. Ar ôl blynyddoedd o ganu hefo'r band Bwchadanas, cafodd y cyfle gan Recordiau Sain i roi'r casgliad yma at ei gilydd. Cyflwyniad sydd yma o rai o ganeuon gwerin hyfrytaf Cymru mewn dull cyfoes, yn ogystal a nifer o ganeuon gwreiddiol.