
Traddodiadol yw'r holl draciau ar yr albym yma. Bu Siân yn canu'r caneuon hyn am flynyddoedd wrth gadw cyngherddau i gyfeiliant ei thelyn. Roedd hi'n awyddus iawn i'w rhoi ar gof a chadw. Mae ambell i offeryn heblaw'r delyn i'w clywed yma, ond mae'r ysbryd yn debyg iawn i'r hyn y bydd Siân yn anelu amdano yn ei chyngherddau solo.
| 1 | Y Gôg Lwydlas |
| 2 | Aderyn Pur |
| 3 | Y Gwydd |
| 4 | Merch ei Mam |
| 5 | Peth Mawr ydy Cariad |
| 6 | Ei di'r Deryn du |
| 7 | Si Hei Lwli |
| 8 | Cariad Cyntaf |
| 9 | Deio Bach |
| 10 | Mi fu'm yn Gweini Tymor |
| 11 | Mwynen Merch |
| 12 | Ffarwel i Langyfelach Lon |
| 13 | Broga Bach |