Bywgraffiad

Ganwyd hi ym mhentref bach Llanerfyl yn yr hen Sir Drefaldwyn, ac fe'i magwyd ym mwrlwm diwylliedig cefn gwlad, gyda cherddoriaeth a barddoniaeth yn rhan annatod o'i bywyd bob dydd. Roedd ei thad yn canu, ei ewythrod, modrybedd a ffrindiau yn canu; roedd drama a barddoniaeth hefyd yn ddifyrrwch cyson ym myd ei theulu a'i chyfoedion. Roedd ei milltir sgwar yn ferw o ddiwylliant.

Dechreuodd ganu'r piano pan yn chwech oed, y ffidil pan yn wyth, a'r delyn yn unarddeg. Ei hathrawes telyn oedd Ffranses Môn Jones a'i thrwythodd yn y grefft o ganu i gyfeiliant y delyn. Yn bedair ar ddeg oed roedd Siân yn cyfansoddi a threfnu ei chaneuon ei hun ac yn dechrau ymddiddori yn y byd gwerin. Meddai:

"Roedd apel cerddoriaeth gwerin ein gwlad yn annorfod rhywsut yn enwedig o gofio fy mod ar drothwy fy mywyd fel oedolyn. Roedd y caneuon yn emosiynol, rhywiol, rhyfeddol, doniol, cymhleth ac yn delio gyda phob agwedd o'n bywydau ar y ddaear hon: cariad , geni, marwolaeth, crefydd – a hynny i gyd mewn pleth o alawon hudolus ysgytwol o brydferth!"

Yn dilyn y blynyddoedd cynnar hyn aeth i Brifysgol Bangor i astudio cerddoriaeth dan arweiniad Yr Athro Wiliiam Mathias. Tra yn y coleg cyd-ffurfiwyd y grwp gwerin roc Bwchadanas gyda chriw o ffrindiau a fu'n hynod boblogaidd led led Cymru am dros ddeng mlynedd.Yn ystod y blynyddoedd cyffrous hyn, eginodd ei chariad at waith theatr wrth iddi gymryd rhannau blaenllaw yng nghynyrchiadau drama'r coleg. Ers hynny mae Siân wedi cyfuno'r ddau fyd yn ei gyrfa fel perfformwraig.

Dechreuodd ei gyrfa recordio yn 1990 gyda'r albym eclectig Cysgodion Karma (SAIN SCD4037) gyda Les Morrison yn cynhyrchu. Parhaodd y berthynas hwn gyda'r ail albym Distaw (SAIN SCD 2025) yn 1993 a dechreuwyd partneriaeth ysgrifennu lwyddiannus gyda'r awdur a'r bardd Angharad Jones – partneriaeth a bery hyd heddiw. Dilynwyd Distaw gyda'r albym gyfangwbl werin Gweini Tymor (SAIN SCD2145) - detholiad o ganeuon gwerin a ganodd yn ol yn ei phlentyndod. Ronnie Stone, oedd eisioes wedi gweithio gydag artistiaid megis Enya, Mansun a'r Lotus Eaters, cynhyrchodd yr albym arbrofol Di-Gwsg.

Yn 1999 comisiynwyd Siân gan BBC 2 i gyfansoddi a chydlynu'r gerddoriaeth i'r rhaglen deledu Birdman. Hwn oedd ei chynhyrchiad dwyieithog gyntaf.

Mae ei gwaith recordio diweddaraf – Pur, Y Ferch o Bedlam ac Adar ac Anifeiliaid wedi eu recordio a'u rhyddhau ar y label a sefydlwyd ganddi hi a'i chymar Gwyn, sef Recordiau Bos.

Mae Siân wedi teithio'r byd gyda'i chanu am flynyddoedd lawer – teithiau aeth â hi i Japan, UDA, Canada, Yr Almaen, Yr Eidal, Llydaw, Ffrisland, Iwerddon, Yr Alban, Lloegr ac wrth gwrs bron pob pentref a thref yng Nghymru fach!

Ymysg yr uchafbwyntiau yn ei gyrfa yw taith yn 2000 o'r Unol Daleithiau gyda chyngherddau yn Chicago, Milwaukee, Dallas, Houston, San Fransisco, Denver ac Albuquerque; perfformiad yn y gyngerdd mawreddog i ddathlu agoriad y Cynulliad gydag enwogion megis Shirley Bassey a Tom Jones; perfformiadiau i Womad yng Ngŵyl Reading a Theatr y Globe yn Llundain; canu ar gerddoriaeth y ffilm "The Englishman who went up a hill and came down a mountain" a recordiwyd yn Stiwdio Abbey Road.

Yn ddiweddar gwnaed Siân yn Gymrodyr er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei gwasanaeth i ddiwylliant Cymru. Meddai:

"Mae fy nghariad at gerddoriaeth gwerin fy ngwlad mor angerddol heddiw ag yn nyddiau cynhyrfus fy ieuenctid. Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael pleser digyfaddawd wrth arbrofi gyda rhyfeddodau ein alawon gydag arddulliau megis jazz a blues a rhaglennu cyfrifiadurol, gydag ystod eang o offerynnau heb, gobeithio golli'r parch at eu hanian unigryw. Yn wir, i mi, canu gwerin yw fy hafan rhag bedlam bywyd!