Rhestr Traciau:
1.Feel the Morning
2. Y Gwydd (The Loom)
3. Birdman
4. Mabon
5. Mil Harddach (A Thousand Times More Beautiful)
6. Set Your Spirit Free
7. Si Lwli
8. Gwern
9. Marwnad yr Ehedydd (The Lark's Elegy)
10. From Where I Stand
11. Rhodio (As I Walked)
12. I Feel
13. Deryn Du (Backbird)
14. Si Lwli (reprise)
15. Ev Chistr 'ta Laou (Breton cider drinking song)
16. Marwnad yr Ehedydd (reprise)
17. The Kill
18. Trafaeliais y Byd (I Travelled the world)
19. A Bay
Birdman: (BBC Records WMSF6007-2)

Creuwyd gerddoriaeth yr albym hon yn wreiddiol fel cerddoriaeth i raglen Birdman gan y BBC a oedd yn dilyn Iolo Williams o'r R.S.P.B. (Royal Society for the Protection of Birds). Roedd y BBC mor hoff o'r gerddoriaeth, fe wnaethant album ohono a'i ryddhau ar BBC Worldwide. Ar y gyfres ei hun roedd golygfeydd gwych o Gymru ac o adar prin, a gyda cherddoriaeth Siān yn gefndir, roedd yn drawiadol iawn.

Dywedodd Siān:

"Roedd rhywbeth yn addas iawn am ofyn wrth ganwr traddodiadol Cymraeg gyfansoddi soundtrack hefo adar yn thema iddo. Y rheswm am hyn yw fod adar yn arwyddocaol iawn yn niwylliant y Celtiaid, yn enwedig yng Nghymru. Maent yn chwarae rhan canolog mewn nifer o'n chwedlau ee. Blodeuwedd, Branwen a Rhiannon. Roedd y Cymry yn aml yn rhagweld digwyddiadau wrth wylio adar. Mae dywediadu di-ri yn y Gymraeg yn cyferio at arwyddocad lwybrau hefan ac ymddygad adar i ddigwyddiadau'r presenol a'r dyfodol. Ac wrth gwrs, mae'n caneuon gwerin yn frith gan gyfeiriadau ornitholegol, y gān llatai er engraifft (lle mae gwyr ifanc yn gyrru adar at ferched er mwyn cael gwybod ydynt yn eu caru), yw un o'r mathau mwyaf poblogaidd o'n caneuon gwerin.

Yn niwylliant y Celtiaid ma'r aderyn yn symbol o gyfeillgarwch, hoffter a chariad. Gwir obeithiaf fy mod drwy'r albym hon wedi llwyddo dal rhai o'r emosiynnau hyn yn y gerddoriaeth."

I brynu copi or albym danfonwch siec wedi ei ysgrifennu allan i Sian James am US$18:00 neu GB£13:00 (yn cynnwys.p+p) neu'r un swm yn arian eich gwlad chi a'ch cyfeiriad i:

Siān James
PO Box 56
Y TRALLWM
Powys
Cymru
SY21 0WP
U.K.

Os ydi'r chwaraewr RealPlayer G2 gennych fe allwch glywed sampl o gan 1 (Feel the morning). Mae'r chwaraewr ar gael am ddim o'r linc isod.

download RealPlayer G2

pur
cysgodion 
karma
distaw
gweini 
tymor
di-gwsg