Croeso


Siān yw'r amlycaf ymhlith cantorion traddodiadol modern yng Nghymru. Mae pedwar albym gan Recordiau Sain, y record Birdman ar label BBC Worldwide, cyfres deledu ar S4C, ac erbyn hyn ei chweched albym Pur, ar label newydd Sian, Recordiau Bos wedi eu cynhyrchu yn dystiolaeth o'i gallu cerddorol.

"Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ran anatod o'm mywyd. Fe'm magwyd ar aelwyd gerddorol a ces fy rhoi ar lwyfan am y tro cyntaf gen fy Mam yn dair oed i gystadlu mewn amryw o Eisteddfodau lleol.

"Dechreuais ddysgu'r piano pan yn chwech oed, y feiolin pan yn wyth a'r delyn pan yn unarddeg. Erbyn pedair ar ddeg dechreuais ganu caneuon traddodiadol mewn cyngherddau i gyfeiliant fy hun ar y delyn.

"Yn fuan wedyn dechreuais gyfansoddicaneuon a chreu trefniannau newydd o ganeuon gwerin a darganfod pleser mawr wrth greu ac arbrofi wrth y piano. Fel hyn y bu trwy fy nyddiau ysgol ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor lle astudiais gerddoriaeth. Ces fy annog a fy ysbrydoli'n fawr gan fy nhiwtor cyfansoddi Yr Athro William Mathias a ddangosodd arweiniad doeth i mi.

"Yn ystod y dyddiau coleg hyn bum yn canu gyda'r grwp gwerin roc Bwchadanas a atgyfnerthodd fy niddordeb mewn arbrofi a gwahanol arddulliau cerddorol. Yn dilyn y blynyddoedd addysgiadol hyn mae fy mywyd proffesiynnol wedi ei rannu rhwng cerddoriaeth a gyrfa fel actores."