Paham mae Dei mor hir yn dod,
A heddiw’n ddydd priodi,
Ai tybed fod fy nghariad gwyn
Mor hwyr a hyn cyn codi?
Does neb a wyr pa ddrwg sy’n bod;
Paham mae Dei mor hir yn dod?
Does neb a wyr pa ddrwg sy’n bod,
Paham mae Dei mor hir yn dod?
A ydyw’r fodrwy ganddo ef
A phapur y gostegion?
Beth pe bae’r fodrwy yn rhy fach
Pan awn o flaen y Person?
Does neb a wyr a.y.b.
Fe ddwedodd neithiwr ar y ddol
Wrth nol ei ddillad gorau
Y treiai’r fodrwy ar fy llaw
Cyn naw o’r gloch y bore;
Mae’n awr yn ddeg pa ddrwg sy’n bod, a.y.b.
Ond dyma Dei fel dyn yn dod,
Ac er bod Mam yn wylo
Mi rof fy nwylo am ei wddf
A’r menyg am fy nwylo;
Doedd neb yn dweud bod drwg yn bod,
Mi wyddwn Dei dy fod yn dod
Doedd neb yn dweud bod drwg yn bod,
Mi wyddwn Dei dy fod yn dod.
Lisa Lan
Bum yn dy garu lawer gwaith,
Do lawer awr mewn mwynder maith,
Bum yn dy gusanu Lisa gel
Ac roedd dy gwmni yn well na’r mel
Fy nghangen lan, fy nghowlad glyd,
Tydi yw’r lanaf yn y byd;
Tydi sy’n peri poen a chri,
A thi sy’n dwyn fy mywyd i.
Pan fyddwy’n rhodio gyda’r hwyr,
Fy nghalon fach a dodd fel cwyr,
Wrth glywed swn yr adar man,
Daw hiraeth mawr am Lisa Lan.
Lisa a ddoi di I’m danfon I,
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f’annwyl ffrind,
Hyd lan y bedd lle rwyf yn mynd.
Adar man y mynydd
Yr eos a’r glan hedydd,
Ac adar man y mynydd
A ewch chi’n gennad at liw’r haf
Sy’n glaf o glefyd newydd.
‘Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i’w danfon,
I ddwyni i’ch cof yr hwn a’ch car,
Ond par o fenyg gwynion.
Yr adar man fe aethant,
I’w siwrnai bell hedasant,
Acyno ar gyfer gwely Gwen,
Hwy ar y pren ganasant
Dywedai Gwen lliw’r ewyn,
“Och fi, pa beth yw’r ‘deryn,
Sydd yma’n tiwnio’n awr mor braf
A minnau’n glaf ar derfyn ?”
“Cenhadon ym gwnewch goelio,
Oddi wrth y mwyn a’ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr ych,
Ai mendio’n wych ai peidio”
“O dwedwch wrtho’n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf yn brudd
A’n gymysg bridd a grafel.”
Ar lan y mor
Ar lan y mor mae rhosys cochion,
Ar lan y mor mae lilis gwynion,
Ar lan y mor mae nghariad inne,
Yn cysgu’r nos a chodi’r bore.
Ar lan y mor mae carreg wastad,
Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari
.
Llawn iawn yw’r mor o swnd a chregyn,
Llawn yw’r wy o wyn a melyn,
Llawn yw’r coed o ddail a blode,
Llawn iawn o gariad ydwyf inne.
Ar lan y mor mae cerrig gleision,
Ar lan y mor mae blodau’r meibion,
Ar lan y mor mae pob rhinweddau,
Ar lan y mor mae nghariad inne.
Ow! Merch wyf i
Ow, merch wyf fi a rhoes fy mryd
Ar gariad mab ac aelwyd clud
Och ond caf i fab clenia’r fro
I’r bedd rwy’n mynd o’i hachos o
Ni anwyd, ni enir, ni fagwyd,
Ni fegir ‘run modd,
Ddim perlad i Gwyn hanswm
Yn sengid ar wndwn,
A minnau pe medrwn fe rhoddwn fy nghlod.
I Mam a Nhad mor wael ei wedd
Yw’r hwn a garaf hyd y bedd
Pendefig sydd i gynnig serch
A chadw’n dda eu hannwyl ferch
Ei olud ei gariad ei aelwyd
Ni fynnaf y rhain
Os daw i mi’r mab hanswm
A’i benglin ar wndwn
O’r diwedd y medrwn cael rhannu ein clod
Y Ferch o Bedlam
Pan oeddwn maes yn rhodio
Foreuddydd yn yr haf
Fe glywn y ferch o Bedlam yn tiwnio’n felys braf
Ac er fod dwylaw Gwen yn gaeth,
Mewn hiraeth d’wedai hi,
“Mi gara nghariad yn driw i dre,
Gwaith fe a’m carodd i”
I’r mor fe aeth fy nghariad,
O achos gwaith fy nhad,
A minnau drow’d i’r Bedlam
Mewn gobaith cael gwellhad;
Arosaf yno er ei fwyn,
Mor foddlon byddaf fi,
Mi gara nghariad yn dryw i dre,
Gwaith fe a’m carodd i.
O! ti yw f’annwyl Poli
A’th wallt a’i olwg gwyn,
Fy annwyl gariad, o paham
Yr y’ch chwi’n gofyn hyn?
Rwy’n dod i ddweud y cyfan,
Mawr helynt gawsom ni;
Mi gara nghariad yn driw i dre,
Gwaith hi a’m carodd i.
Dod dy Law
Dod dy law ond wyt yn coelio,
Dan fy mron a gwylia mriwio,
Ti gei glywed os gwrandewi,
Swn y galon fach yn torri.
O! f’annwylyd cymer frwynen,
Ac ymafael yn ei deupen,
Yn ei hanner torr hi’n union,
Fel y torraist ti fy nghalon.
Trwm yw’r plwm a thrwm yw’r cerrig,
Trwm yw calon pob dyn unig,
Trymaf peth dan haul a lleuad,
Canu’n iach lle byddo cariad.
Ambell i gan
Ambell I gan a geidw fy mron
Rhag suddo i lawr dan amal i don;
Mae’r awen mor siriol, mor swynol mor lan,
Diolchaf o galon am ambell i gan.
Ambell i gan dry dwllwch y nos,
Mor olau a’r dydd, mor siriol a’r rhos,
Caddugol anobaith gymylau – fel gwlan
Y troant, os gallaf gael ambell i gan
Ambell i gan rydd nerth yn y fraich,
A’r ysgwydd i gario amal i faich,
A grym anawsterau falurir yn lan
Os gallaf gael canu ambell i gan
Ambell i gan a gaf yn y byd,
Ond teithiaf i wlad sydd yn ganu i gyd,
Ac wedi im’ adael yr anial yn lan
Gobeithiaf gael canu, nid ambell i gan
Angau
Ar ryw noswaith yn fy ngwely
Ar hyd y nos yn ffaelu cysgu,
Gan fod fy meddwl yn ddiame
Yn cydfeddwl am fy siwrne.
Galw am gawg a dwr i ‘molchi
Gan ddisgwyl hyn i fy sirioli;
Ond cyn rhoi deigryn ar fy ngruddiau
Ar fin y gawg mi welwn Angau
Mynd i’r eglwys i weddio,
Gan dybio’n siwr na ddeuai yno;
Ond cyn i mi godi oddi ar fy ngliniau,
Ar ben y fainc mi welwn Angau.
Mynd i siambar glos i ymguddio,
Gan dybio’n siwr na ddeuai yno;
Ond er cyn closied oedd y siambar
Angau ddaeth o dan y ddaear.
Mynd i’r mor a dechrau ymrwyfo,
Gan dybio’n siwr na fedrai nofio;
Ond cyn cyrraedd dyfnion donnau
Angau oedd y capten llongau.
Ffarwel ferched, ffarwel feibion,
Ffarwel holl ryganau gwyrddion;
Duw a faddau i mi ‘meiau,
Mynd sydd raid i ganlyn Angau.
Can Crwtyn y Gwartheg
Mae genni fuwch wynebwen lwyd,
Ie fyth wynebwen lwyd,
Mae genni fuwch wynebwen lwyd,
Hi aiff i’r glwyd i ddodwy;
A’r iar fach yn glaf ar lo,
Ie fyth yn glaf ar lo,
A’r iar fach yn glaf ar lo,
Nid aiff o ngho’ i ‘lenni!
Cytgan:
Ton ton ton dyri ton ton ton
Dyri ton ton ton dyri ton ton ton,
Ton ton ton dyri ton ton ton
Dyri ton ton ton dyri ton ton.
Saith o adar man y to
Yn fraeo wrth daflu disiau.
A’r dylluan a’i phig gam
Yn chwerthin am eu pennau.
Mae genni ‘sgwarnog gota goch,
A dwygloch wrthi’n canu,
A dau faen melin yw ei phwn
Yn maeddu milgwn Cymru.
Beth yw’r haf i mi ?
Beth yw’r haf i mi dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli,
Er pan gollais di nid yw hirddydd haf yn ddim i mi,
Gariad bach er crwydro’n ffol,
Dwed y ddoi di eto nol
Beth yw’r haf i mi dim ond hirlwm ers pan gollais ti.
Trist yw’r galon fach pan fo cwyn y gwynt ym mrigau’r coed
Wedi’r canu’n iach rwyf yn disgwyl clywed swn dy droed,
Gariad bach er crwydro ‘mhell
Tyrd yn ol i gyfarch gwell,
Trist yw’r galon fach; ni bu hiraeth mwy ar neb erioed.
Beth yw’r haf i mi os yw’r fron yn glaf o dan ei chlwy,
Beth yw’r haf i mi os yw’r galon fach war dorri’n ddwy,
Gariad bach er cilio’n ffol
Dwed y doi di eto’n ol
Yna bydd i mi hyfryd haf a dyddiau dedwydd mwy
Y Mab Afradlon.
I blwy’ Llanrwst rwy’n gorfod myned
Heb obaith byth am gael eich gweled,
Na’m tad na’m mam na’r un o’r teulu,
Ow na bawn i wedi ‘nghladdu.
A mynd a wnes i dipyn pellach
A dringo i fyny bwlch a duben
Yno ro’n i’n ddall a’m dagrau
Colli golwg ar fy nghartre
Rwy’n mynd dros gefnydd maith a thiroedd
I breswylio i wlad yr India
‘Rwy’n mynd i ddolydd haul a lleuad
Heb wybod fawr am fater enaid.
‘Yfi sydd fachgen gwyllt anufudd
A Duw a roddith i mi galon newydd
Os caf fi goncwest ar fy ng’lynion
Mi ddof yn ol yn rhwydd fy nghalon
Mi ddof yn ol yn rhwydd fy nghalon
At ddrws fy nhad fel y mab afradlon.