![]() Rhestr Traciau: 1.Y Deryn Pur 2. Ei Di'r Deryn Du ![]() ![]() 3. Ar Fore Dydd Nadolig 4. Mordaith I America 5. Dacw 'Nghariad 6. My Donald 7. Ym Mhontypridd 8. Yr Eneth Glaf 9. Cariad Cyntaf 10. Evening Prayer ![]() ![]() 11. Y Glomen 12. Hiraeth Am Feirion 13. Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod 14. Llangollen Market 15. Cyfri'r Geifr |
Pur:
(BOS Records RBOS 1)
Mae'r albym yma gen Siān yn arbennig iawn am ambell reswm. Dyma'r unig albym Gymraeg y gwyddom amdani sy'n cynnwys dim ond telyn a llais un perfformiwr a'r rheini wedi eu recordio yn fyw heb tros ddybio. Mae'r perfformiadau a geir arni yn rymys iawn ac yn dystiolaeth o brofiad a dealltwriaeth Siān o ganeuon traddodiadol. Heblaw trac 4, Mordaith i America a'r trefniant o Evening Prayer gan Dylan Thomas, trac 10, caneuon tradodiadol ydi'r rhain i gyd. Maent yn ganeuon y mae Siān yn gyfarwydd iawn a nhw ac yn amlwg o'r perfformiadau, yn ganeuon sy'n agos at ei chalon.
Daeth teitl yr albym yn gynnar iawn yn y broses o'i chreu. Y syniad cychwynol oedd i greu albym pur, yn yr ystyr na fyddai dim arall yn ychwanegu at swn gwreiddiol Siān a'i thelyn. A hefyd pur mor belled a fod y caneuon yn cael eu dehongli mewn ffordd gwbl gynhenid Gymeig.
Dyma'r swn mae Siān yn cynhyrchu yn ei chyngherddau unigol byw a dyma'r swn mae hi wedi ei greu ers iddi ddechrau canu caneuon gwerin i'w chyfeiliant ei hun ar y delyn o dan arweiniad ei hathrawes annwyl Ffranses Mōn Jones. Mae'r record hon yn llawn awyrgylch a thanwydd i'r dychymyg gyda'r hen eiriau yn datgelu hen wirioneddau a'r hen alawon yn eu trosglwyddo yn berffaith. Fel mae'r pwt ar gefn clawr yr albym yn darllen,"Yma, gyda'i chanu a'i thelyna hudolus, mae Siān yn ein hatgoffa o nerth ein diwylliant - cofnod amhrisiadwy o ganu ein cenedl".
I brynu copi or albym danfonwch siec wedi ei ysgrifennu allan i Sian James am US$18:00 neu GB£13:00 (yn cynnwys.p+p) neu'r un swm yn arian eich gwlad chi a'ch cyfeiriad i:
Siān James
RealAudio samples of tracks 2 (Ei Di'r Deryn Du ) and 10 (Evening Prayer) are available if you have the RealPlayer G2 player. The free player is available by clicking on the button below.
|
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |