
Caneuon sy'n agos at ei chalon ac sydd yn gyfarwydd iawn i Siân y ceir yma. Mae'r perfformiadau grymus yn dystiolaeth o'i phrofiad a'i dealltwriaeth o'n caneuon traddodiadol. Heblaw trac 4 a trac 10, caneuon tradodiadol yw'r rhain i gyd. Dyma'r swn mae Siân yn cynhyrchu yn ei chyngherddau unigol byw. Mae'r record hon yn llawn awyrgylch a thanwydd i'r dychymyg gyda'r hen eiriau yn datgelu hen wirioneddau a'r hen alawon yn eu trosglwyddo'n berffaith. Fel mae'r pwt ar gefn clawr yr albym yn darllen, "Yma, gyda'i chanu a'i thelyna hudolus, mae Siân yn ein hatgoffa o nerth ein diwylliant - cofnod amhrisiadwy o ganu ein cenedl".