Croeso!

Siân yw'r amlycaf o gantorion gwerin Cymru. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau wyth albym oi gwaith – pedwar albym gyda Recordiau Sain; Birdman gyda BBC Worldwide (comisiwn arbennig o gerddoriaeth gwreiddiol a thraddodiadol i BBC2); Pur, Y Ferch o Bedlam, ac Adar ac Anifeiliaid, sef casgliad o hwiangerddi i blant, ar Recordiau Bos. ooooooooooooooooooooooooo000ooooooMeddai Siân...

Fruitllydan

"Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ran annatod o'm mywyd. Fe'm magwyd ar aelwyd gerddorol ac yn fuan iawn dechreuais ganu’r piano, y ffidil a'r delyn. Dechreuais gyfansoddi caneuon a chreu trefniannau newydd o ganeuon gwerin a darganfod pleser mawr wrth greu ac arbrofi wrth y delyn a'r piano.
Mae fy nhgariad at ganeuon gwerin yn gynhenid imi erbyn hyn ac er bod gennyf hoffter mawr at bob math o gerddoriaeth erys cerddoriaeth gwerin fel rhyw fath o rym bendigedig nad yw’n bosib dianc rhagddo. Cerddoriaeth fy ngwlad yw fy hafan rhag fedlam bywyd!"